Skip to main content

https://insidehmcts.blog.gov.uk/2018/03/21/weve-started-moving-court-and-tribunal-forms-to-gov-uk/

We’ve started moving Court and Tribunal forms to GOV.UK

Posted by: and , Posted on: - Categories: Civil, Crime, Digital services, Family, Tribunals, User experience and research


[English] - [Cymraeg]

Today we started to move court and tribunal forms to GOV.UK, as previously mentioned in our blog on 23 February. Last week, we explained in a little more detail what’s changing and what’s not changing.

Form finder still available

From today, when you click on form finder search results, you will be taken to new pages on GOV.UK from which you can download the form you searched for. You will also see these new pages when you visit a previously saved link or a bookmark to a form - we’ve put in automatic redirects. These pages are now also available when you directly search on GOV.UK.

Form finder is still here, and will continue to work as before as we complete the move of forms and guidance. As part of this work, we will be carrying out some research on how searching and finding forms on GOV.UK is working for users.

We’ve not finished yet

We hope that you find the new pages more useful. As previously mentioned, we’ve added additional contextual information to the most frequently accessed forms, to help users find related forms, guidance and services. We’ve done this for forms which represent just over half of the total downloads from form finder, so the majority of users should see improvements.

For example, from the new Probate form page  on GOV.UK you can now find links back to detailed guidance, information on court fees and also the information provided on GOV.UK on wills, probate and inheritance.

We will continue to add and improve the information in the coming weeks and months for the remainder of the forms.

Your feedback

We have created a survey to capture user feedback, which we have linked to from the new pages for the most popular forms. We also welcome your feedback at hmctsforms@justice.gov.uk.


[English] - [Cymraeg]

Rydym wedi dechrau symud ffurflenni llys a thribiwnlys i GOV.UK

Heddiw, mi wnaethom ddechrau symud ffurflenni a thaflenni llys a thribiwnlys i GOV.UK, fel y nodwyd eisoes yn ein blog ar 23 Chwefror. Wythnos diwethaf, mi wnaethom egluro mewn ychydig mwy o fanylder beth fydd yn newid a beth na fydd yn newid.

Mae Form Finder yn parhau i fod ar gael

O heddiw ymlaen, pan fyddwch yn clicio ar ganlyniadau chwilio form finder, byddwch yn cael eich ailgyfeirio i dudalennau newydd ar GOV.UK a gallwch lawrlwytho'r ffurflen yr oeddech yn chwilio amdani yno. Byddwch hefyd yn gweld y tudalennau newydd hyn pan fyddwch yn clicio ar ddolen y bu ichi ei chadw yn flaenorol neu nod tudalen i ffurflen - rydym wedi ychwanegu ailgyfeiriadau awtomatig. Mae’r tudalennau hyn hefyd ar gael pan fyddwch yn chwilio ar GOV.UK

Mae Form Finder dal i fodoli, a bydd yn parhau i weithio fel yr oedd o’r blaen wrth i ni gwblhau symud ffurflenni a nodiadau canllaw i GOV.UK. Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn gwneud ychydig o waith ymchwil ar sut mae defnyddwyr yn chwilio ac yn dod o hyd i ffurflenni ar GOV.UK.

Nid ydym wedi gorffen eto

Rydym yn gobeithio y bydd y tudalennau newydd yn fwy defnyddiol i chi. Fel y nodwyd eisoes, rydym wedi ychwanegu gwybodaeth ddisgrifiadol am y ffurflenni a ddefnyddir amlaf, er mwyn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i ffurflenni, canllawiau a gwasanaethau cysylltiedig. Rydym wedi gwneud hyn ar gyfer ychydig dros hanner yr holl ffurflenni sy’n cael eu lawrlwytho o Form Finder, felly dylai’r mwyafrif o ddefnyddwyr weld gwelliannau.

Er enghraifft, ar gyfer tudalen newydd y ffurflen Profiant ar GOV.UK gallwch nawr ddod o hyd i ddolenni yn ôl i ganllawiau manwl, gwybodaeth am ffioedd llysoedd a hefyd y wybodaeth sydd ar GOV.UK am ewyllysiau, profiant ac etifeddiaeth.

Byddwn yn parhau i ychwanegu a gwella’r wybodaeth sydd ar gael yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf ar gyfer gweddill y ffurflenni.

Eich adborth

Rydym wedi creu arolwg i gael barn defnyddwyr, sydd ar gael ar y tudalennau newydd ar gyfer y ffurflenni mwyaf poblogaidd. Gallwch hefyd anfon unrhyw adborth sydd gennych i hmctsforms@justice.gov.uk.

Sharing and comments

Share this page